Cân serch syml am noson hefo myfyriwr mathemateg. Credaf mai allt penglais yw’r ‘cerdded lawr y bryn’.
Abacus
Ti'n gadael i mi gredu bod gen ti ddim diddordeb, Wedyn cynnig cysur, y cysur mwya glandeg, Mi fethish i ymateb, ma raid ’mod i yn ddwl, Roeddat ti wedi chwara ’fo abacus fy meddwl. Ti'n gadael i mi greu y broblem ’nodda un A wedyn cynnig ateb dy ateb di dy hun, Fedra i’m cael 'y mhen rownd y sym anhygoel hon, Ti ‘di chwalu'r abacus abacus fy nghalon. Cytgan Mae un ac un yn ddau A chdi a fo 'di’r rheini, Dwi’n cyfri dim i chdi, 'Run od sy ddim yn rhannu, Ond cerddais lawr y bryn ’Rôl rhannu fy mreuddwydion, Yn tynnu gwallt fy mhen A chyfri fy mendithion. Ti'n gadael i mi feddwl fod rhywbeth yn y gwynt 0nd gwn ym mer fy esgyrn ddaw’r ateb ddim ynghynt, Ti’n cynnig rhif dy ffôn, fel mathemateg pur A'r cwbwl ydw i angen ’di’r ateb i fy nghur. Ti'n gadael i mi fynd hefo cusan ar fy moch. ’Di'r ”gawn ni rywbryd eto” jyst ddim yn canu cloch, Y batri aeth yn fflat yn y gyfrifiannell hon. Ti ’di chwalu’r abacus abacus fy nghalon. Cytgan Un, dau, tri, Mam yn dal pry, Pry wedi marw, Mam yn crio'n arw.
Nid oes modd chwarae'r gan yma eto.
0 Comments