Can Walter
D G A D O ffarwel, mae'n fore braf, D F# Em O ffarwel i chi, G A D Bm Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan G A D Dan donnau oer y lli. Cytgan: D A A O(nd) brysiwch, mae'n rhaid ymadael, A D Hiraeth a lenwa 'mron G A D Bm Awn heddiw i ffwrdd ar y Tarpan G A7 D Yn isel o dan y don. Cofleidiodd ei rieni, Ei chwaer a'i ffrindie i gyd, Ni welaf fyth 'mo Solfa mwy O fynd i bellter byd. -Cytgan- Yn nhafarn glyd y pentref bach, Ei arian roes i'w ffrind, Wel, yfwch lan, ac iechyd da! I ryfel mae'n rhaid mynd. -Cytgan- O fewn y mis y postmon ddaeth A llythyr at ei dad, Bu farw Walter o dan y mor, Bu farw dros ei wlad. -Cytgan- Yn isel o dan y don.
Nid oes modd chwarae'r gan yma eto.
0 Comments