Can hynod arall gan Emyr Huws Jones (Ems). Wedi clywed llawer o esboniadau difyr am y geiriau yn y gan hon – o gan serch syml hyd at ymson ddwys a tywyll parchedig. Be ‘da chi yn feddwl?

      C                                 G   
Wrth gwrs fe gei di gerdded ar hyd fy llwybr

     Dm7                     C
Cei fynd lle y mynni ar fy nhir,
      C                               G   
Wrth gwrs fe gei di gasglu fy mlodau harddaf,

Dm7                     C
Dim ond i ti addo dweud y gwir.



      C                              G
Wrth gwrs fe gei di gerdded i fy mwthyn,

     Dm7                    C
Cei gynnau y tan a hwylio'r te.

      C                           G
Wrth gwrs fe gei di groeso ar fy aelwyd,

Dm7                          c
Dim ond i ti 'sbonio be 'di be.


Cytgan:

 F        G                   C         F C
Dyma gan achubwyd o donnau y moroedd,

      F             G
Fe'i gwelwyd yno'n boddi,

     E        E7 Am
Gan geidwad y goleudy,

       F            G
Fe'i clywyd yno'n gweiddi,

    E       E7    Am
A wnei di f'achub i,

 F              G
Can a oedd yn llithro,

  C            G        Am
Rhwng muriau llaith anghofio,

 F         G7           C
Ceidwad y goleudy ydwyf i.



      C                           G
Wrth gwrs fe gei di weddi wrth fy allor,

         Dm7                        C
Rhoddaf glustiau fy Nuw yn eiddo i ti

      C                             G
Wrth gwrs cei fedyddio dy blant yn nwr fy ffynnon,

Dm7                     G
Os y gwnei di ddysgu ngharu i.



Cytgan

Ar y diwedd:

Am       D7


  F        G7           C
Ceidwad y goleudy ydwyf i