Un o nghaneuon gorau i – peintio llun wych o gariad ifanc, byr ond yn aros yn hir yn y cof.
Cofio Dy Wyneb
Dwi'n cofio gweld y lleuad yn wyn fel yr haul a'r tywod fel eira yn y golau. Dy law di yn fy llaw i'n oer a'th drwyn fel trwyn esgimo ond dyma be dwi'n gofio orau, dwi'n... Cytgan: Cofio dy wyneb yn edrych ar fy wyneb, dy lygaid yn edrych i fy llygaid, dy law ar fy ysgwydd a'th galon ym mhoced cesail fy nghôt. Dyw Benllech ddim yn nefoedd, 'nenwedig yn yr haf, ond roedd dy gwmni di yn ei wella, ond 'chydig a wyddwn i fod y tywydd ar droi a mod i ar fin dy golli. Cytgan Nid af i Benllech eto, mae'r haf wedi mynd a'r ceir yn mynd yn ôl dros bont Menai, a gadael a wnaethost ti a gwn na ddoi di byth yn ond eto pan ddaw'r haf mi fydda i'n... Cytgan
Nid oes modd chwarae'r gan yma eto.
Helo, dydi’r geiriau uchod ddim hefo’r cordiau o dan nhw.
Rhag ofn nad ydych wedi sylwi.
Diolch
Diolch Beca – wnes i rioed dod rownd i sgwennu cordiau ar gyfer hwn! Ar y rhestr faith – ond mi ddaw! Diolch am roi sylw!