Disgyn Amdanat Ti
Rioed 'di rhoi cred mewn gwyrthia, Roedd pob un dydd yn ddu, Ond weles i ti'n cerdded amdana i. O'n i'n meddwl amdan y pryd Y cerddaist ti mewn i 'myd, O'n i'n meddwl amdan yr hud A ddoth â'r ddau o' ni ynghyd. Cytgan: Weles i 'rioed neb mor brydferth, a cystal â ti, Pan dwi ger ei bron dwi'n gwbwl llon, Dwi 'di disgyn amdanat ti. Bach oedd y gyfartaledd O ni ein dau yn cwrdd, Ond cusanaist ti dy fysedd, A chwythu i ffwrdd. O'n i'n meddwl amdan y pryd Y cerddaist ti mewn i 'myd, O'n i'n meddwl amdan yr hud A ddoth a'r ddau o' ni ynghyd. Cytgan
Nid oes modd chwarae'r gan yma eto.
0 Comments