Môr o Gariad

Capo 5ed ffret, tab a’r cordiau wedi’u dynodi o’r capo (h.y. chwarae siâp D, ond G ydi’r cord mewn gwirionedd)

Intro: Chwarae hwn dwywaith fel intro i bob pennill.  

e--------2------------2------------2--------------2------
B-----------3------------3------------3--------------3---
G-----2------------2-------------------------------------
D--0----------------------------0--------------0---------
A---------------4------------2--------------0------------
E--------------------------------------------------------


Pennill 1: Intro TAB x 2 D

         A    G A G  A   D
Eistedd yma’n unig, ben fy hun

      A    G A   G   A  D
Heno ‘sdim amynedd i helbul byd

G         A      D     G   A     Bm
Ond mae’r nos yn ffoi, fel mae’r byd yn troi

Bm     A    G A      G       A D
Fel y môr o gariad a roddais i ti


Pennill 2: Intro TAB x 2 D

          A   G A    G   A            D
‘Sdim byd yma heno, ond adlais cariad mawr

     A         G   A    G A  D
Ac ein gwydrau gweigion ar y llawr

G    A       D          G     A       Bm
Ac i gwpla’r llun, yn y botel gwaddod gwin

Bm        A     G A G     A        D
Gwaddol y môr o gariad a roddais i ti


Canol:

Bm
Hwn oedd cariad glân

F#m
Hwn oedd cariad ffôl

Em
O, roeddwn i ar dân,

A
Ie, ‘sdim ar ôl

Solo gitâr: Intro TAB D x 2 + pennill


Pennill 3: Intro TAB x 2 D

          A     G A G   A             D
Strydoedd oer y ddinas, strydoedd mor llawn

         A    G  A   G   A         D
Atgofion fydd amdani, ei serch a’i dawn

G           A           D     G        A      Bm
Serch hynny mae’n rhaid byw, ymuno efo hwyl y criw

Bm        A     G A G     A        D
Sych yw’r môr o gariad a roddais i ti

Bm        A     G A G     A        D
Sych yw’r môr o gariad a roddais i ti

Gadael Ymateb